Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin fore ddydd Gwener.
Bu farw gyrrwr car Citroen C3 yn dilyn y gwrthdrawiad gyda char arall ar y B4300 ger Llanarthne. Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y ddynes oedd yn gyrru car Fiat 500 wedi ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau "difrifol".
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 08.45 fore Gwener.
Mae'r ffordd bellach wedi ail-agor.