BBC Cymru Fyw

Caerdydd 2 - 1 Preston

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionLex Immers o'r Adar Gleision yn penio tuag at y gôl
Mae record ddiguro Caerdydd gartref yn parhau wedi buddugoliaeth yn erbyn Preston North End.
Roedd y ddau dîm yn brwydro am bwyntiau i'w symud yn agosach at y gemau ail-chwarae.
Fe aeth Anthony Pilkington a Chaerdydd ar y blaen gyda gôl o gic o'r smotyn ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ac fe lwyddodd i gyflawni'r un gamp gyda deg munud o'r gêm i fynd.
Sgoriodd Callum Robinson gôl hwyr i Preston, ond symud i lawr i'r degfed safle maen nhw, tra bo'r Adar Gleision bellach yn seithfed yn y tabl.