Dewis ymgeisydd Llafur yn lle Huw Lewis

  • Cyhoeddwyd
Dawn Bowden

Mae pennaeth iechyd Unison yng Nghymru, Dawn Bowden wedi ei dewis i sefyll ar ran y Blaid Lafur yn etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni ar gyfer etholaeth y Cynulliad ym mis Mai.

Y gweinidog addysg, Huw Lewis, sy'n cynrychioli'r etholaeth ar hyn o bryd.

Cafodd Ms Bowden ei dewis o restr o fenywod yn unig.

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Mr Lewis y byddai'n rhoi'r gorau i fod yn aelod Cynulliad ar ddiwedd y tymor presennol.