Gorymdeithiau i ddathlu Gŵyl Ddewi
- Cyhoeddwyd

Mae'n ymddangos fod y traddodiad o gynnal parêd i ddathlu Gŵyl Ddewi ar gynnydd wrth i bobl ymuno â gorymdeithiau mewn sawl tref dros y penwythnos.
Cafodd digwyddiadau eu cynnal ym Mangor a Bethesda ddydd Sul.
Ymunodd tua 250 â pharêd ym Mangor ar gyfer yr ail orymdaith i'w threfnu yno.
Yn ôl trefnwyr Parêd Dewi Sant yn nhre Caerfyrddin, fe ymunodd tua mil o bobl â'r orymdaith honno ddydd Sadwrn - y tro cyntaf i'r parêd gael ei drefnu yn y dre.
Cafodd yr orymdaith ei harwain gan y cyn-chwaraewr rygbi, Delme Thomas.
Cafodd gorymdeithiau eu cynnal yn Llanelli a Phwllheli ddydd Sadwrn hefyd.
Dywedodd trefnwyr Parêd Dewi Sant Pwllheli fod tua mil wedi ymuno yn y dathlu yno.
Bydd rhagor o orymdeithiau'n cael eu cynnal dros yr wythnos nesaf - Caerdydd, Aberystwyth a Chaernarfon yn eu plith.