Ailagor ffordd wedi tân
- Cyhoeddwyd

Mae ffordd brysur yng Nghaerdydd bellach wedi ei hailagor ar ôl cael ei chau wedi tân mawr mewn caffi.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i adeilad ar City Road yn agos at Stryd Penlline tua 04:30 fore Sul.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De fod y fflamau wedi dechrau mewn caffi cyn lledu i fflat uwchben.
Bu'n rhaid i'r heddlu symud pobl o'r ardal a darparu lloches dros dro iddyn nhw.