Cyhoeddi 12 artist newydd Gorwelion
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi enwau'r 12 artist newydd sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o brosiect Gorwelion.
Fe ymgeisiodd 200 o artistiaid am le ar y prosiect, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn.
Mae'r 12 yn cynrychioli'r cymysgedd mwyaf amrywiol ers cychwyn Gorwelion yn 2014.
Cefnogi a hyrwyddo talent gerddorol i gynulleidfa ehangach yw nod y prosiect.
Y 12 artist sydd wedi eu dewis gan Gorwelion eleni yw (yn nhrefn yr wyddor):
- Afrocluster - Band naw aelod sy'n chwarae cerddoriaeth funk a hip-hop sy'n dod o leoliadau ar draws Cymru
- Anelog - Band pump-aelod dwyieithog pscyhedelic sy'n gyfuniad o ddau deulu o Ddinbych
- Casey - Band pump aelod craidd caled o Gasnewydd
- CaStLeS/ Cestyll - Band tri-aelod o Rosgadfan, Gwynedd
- Connah Evans - Canwr a chyfansoddwr o Ynys Môn
- Fleur De Lys - Band Cymraeg pedwar-aelod o Ynys Môn
- Danielle Lewis - Cantores gwerin-pop o Gei Newydd, Ceredigion
- Reuel Elijah - Canwr hip-hop, R&B, a pop o Gaerdydd
- Roughion - Cynhyrchwyr cerddoriaeth electronig o Aberystwyth
- Tibet - Band pedwar-aelod indie roc o Gaerdydd
- We're No Heroes - Band tri-aelod indie disgo o Gaerdydd
- Ysgol Sul - Band Cymraeg tri-aelod indie roc o Gaerfyrddin
Dywedodd Lisa Gwilym, cyflwynydd ar BBC Radio Cymru: "Yr hyn dwi wir yn ei fwynhau am gynllun Gorwelion yw'r cyfle i ddod i adnabod 12 artist gymaint yn well.
"Mae cael dilyn siwrne'r grwpiau dros y flwyddyn - o'r holl wylie cerddorol i stiwdios enwog Maida Vale - yn hynod gyffrous.
"Ond yn bwysicach, mae cael rhannu'r gerddoriaeth dwi'n ei chwarae'n wythnosol ar C2 gyda chynulleidfaoedd newydd ledled Prydain a thu hwnt yn golygu cymaint i mi.
"Fedrai ddim aros i weld a chlywed yr amrywiaeth o gerddoriaeth fydd yn cael ei chynnig gan artistiaid Gorwelion eleni."
Dywedodd Dion o'r band Cestyll: "'Da ni'n teimlo yn anferthol o hapus fod yn rhan o'r cynllun.
"'Da ni wedi bod yn gweithio reit galed ar y band dros y ddwy flynedd diwethaf, felly mae'n deimlad da bod yr holl waith yn cael sylw gan gynllun fel Gorwelion, ac yn edrych ymlaen i wneud y mwyaf o'r gefnogaeth."
Bydd yr artistiaid yn cael cynnig perfformio ar lwyfan mewn digwyddiadau ledled Cymru a thrwy wasanaethau radio cenedlaethol BBC Cymru - BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales - gan ddechrau gyda Focus Wales ar 2 Mai.