Merch wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod merch 16 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar 24 Chwefror.
Roedd Courtney Smith yn teithio mewn car pan ddigwyddodd y ddamwain ychydig ar ôl 23:00.
Bu farw gyrrwr y car - dyn 21 oed - yn y fan a'r lle.