Tottenham Hotspur 2 - 1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Reuters
Colli wnaeth Abertawe yn erbyn Tottenham Hospur er i'r Elyrch sgorio gyntaf yn White Hart Lane.
Aeth Alberto Paloschi ag Abertawe ar y blaen wedi 19 munud.
Fe lwyddodd y gôl-geidwad, Lukasz Fabianski, i arbed sawl ergyd, cyn i Kyle Walker ddod â'r tîm cartref yn gyfartal gydag ugain munud i fynd.
Saith munud yn ddiweddarach, fe aeth Danny Rose â Tottenham ar y blaen.
Mae'r golled yn gadael Abertawe yn yr 16fed safle yn y bencampwriaeth.