Caeredin 24 - 23 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Caeredin SgarletsFfynhonnell y llun, SNS

Colli fu hanes y Scarlets yng Nghaeredin ym mhencampwriaeth y Pro12, a hynny o drwch blewyn.

Cafodd yr ymwelwyr hanner cyntaf cryf gyda Hadleigh Parkes, James Davies a Steffan Evans yn sgorio, ond tipyn tlotach oedd yr ail hanner i'r Scarlets.

Wedi i Phil Burleigh dirio dros Gaeredin yn yr hanner cyntaf, fe sicrhaodd cais gan Ben Toolis y fuddugoliaeth i'r tîm cartref gydag 11 munud yn weddill.

Mae'r Scarlets nawr yn drydydd yn nhabl y Pro12, wedi ennill 11 gêm a cholli 5.