Gleision 23 - 13 Ulster
- Cyhoeddwyd

Roedd Rhys Patchell yn allweddol ym muddugoliaeth y Gleision
Sgoriodd Gleision Caerdydd ddau gais hwyr i guro Ulster ym mhencampwriaeth y Pro12.
Roedd yr ymwelwyr ar y blaen am gyfnod helaeth o'r gêm cyn i Rhys Patchell ac Aled Summerhill sgorio'n hwyr i sicrhau buddugoliaeth.
Er gwaetha'r golled i Ulster, mae'r tîm yn aros yn bedwerydd yn y tabl, tra bo'r Gleision yn nawfed.