Galw ar Aelodau Cynulliad i ariannu addysg ôl-16
- Cyhoeddwyd

Mae tri undeb llafur yn annog Aelodau Cynulliad i ymrwymo i ariannu addysg ôl-16.
Mae'r UCU, NUS Cymru ac Unsain yn dweud bod yn rhaid i'r rhai fydd yn cael eu hethol yn yr etholiad fis Mai sicrhau buddsoddiad neu wynebu'r perygl y bydd pobl o gefndiroedd difreintiedig ar eu colled yn addysgol.
Bydd yr undebau'n cwrdd ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd ddydd Llun i lansio'r ymgyrch.
Yn ychwanegol, mae'r undebau'n dweud fod y rhan fwyaf o oedolion sy'n dychwelyd at addysg yn gwneud hynny heb gefnogaeth eu cyflogwyr.
Dywedodd Ebbi Ferguson o NUS Cymru: "Mae'n colegau a'n prifysgolion yn cynnig ailgyfle allweddol i oedolion sydd eisiau datblygu eu sgiliau, ac i'r rheiny sy'n dod o gymunedau difreintiedig.
"Mae torri'n ôl ar ariannu addysg ôl-16 ac addysg rhan amser yn golygu y bydd y bobl hyn - llawer ohonyn nhw'n fenywod - yn colli cyfle arall ac yn golygu bod Cymru'n colli adnodd mawr posib."
Yn y cyfamser, mae'r Brifysgol Agored yn annog gwleidyddion yng Nghymru i weithredu oherwydd y gostyngiad sydd wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio rhan amser.
Yn ôl y Brifysgol Agored, dylai Cymru osgoi gwneud yr un camgymeriadau â Lloegr gan fod nifer y myfyrwyr rhan-amser yma wedi gostwng 11% ers 2009/10.