Aelodau Seneddol i ymweld â chanolfan ceiswyr lloches

  • Cyhoeddwyd
bandiau

Bydd grŵp o Aelodau Seneddol yn ymweld â chanolfan sy'n darparu prydau bwyd a llety i geiswyr lloches yng Nghaerdydd yn dilyn ffrae am yr angen i bobl wisgo bandiau er mwyn derbyn bwyd.

Mae Lynx House wedi newid y polisi oedd, yn ôl rhai, yn sarhad ar bobl.

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, David Davies, cyn yr ymweliad ddydd Llun fod ASau eisiau "gweld y lle drostyn nhw'u hunain".

Ychwanegodd: "Fel pwyllgor, rydyn ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig gweld y tu ôl i'r penawdau newydd ar faterion Cymreig.

"Ar hyn o bryd, mae dros 1,000 o geiswyr lloches yng Nghymru ac mae'n bwysig i ni graffu ar y maes hwn nawr gan nad oes arwydd y bydd yr argyfwng ffoaduriaid yn tawelu yn y dyfodol agos."

Dywedodd Clearsprings Group, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth, fod y bandiau yn ffordd "ddibynadwy ac effeithiol" o sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n gywir, ond nad yw'n cael ei ddefnyddio bellach.