Meddygon: Cannoedd o swyddi gwag yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
meddygonFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae cannoedd o swyddi i feddygon yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn wag, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru.

Roedd nifer y swyddi gwag ym myrddau iechyd Cymru erbyn diwedd llynedd - gan eithrio Hywel Dda - wedi codi o dau draean ar gyfradd o 7% ers yr un cyfnod yn 2014.

Ar 1 Rhagfyr 2015, roedd 493 o swyddi i ddoctoriaid heb eu llenwi ym myrddau iechyd Cymru, cyfradd o 7.8%, a mwy na dwywaith y swyddi gwag (230) ar yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Mae'r data, ddaeth o gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, hefyd yn dangos fod 1,203 o swyddi gwag i nyrsys yng Nghymru, sy'n gyfradd o 5.6%.

Mae'r saith bwrdd iechyd wedi dweud eu bod yn edrych i recriwtio nyrsys o dramor, gyda phump o'r rhain yn dweud eu bod hefyd yn edrych i recriwtio meddygon o dramor.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf fod 10% o'r 698 o swyddi nyrsio sydd ganddyn nhw heb eu llenwi, y gyfran uchaf yng Nghymru.

Yn ôl Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda, roedd 14% o'u swyddi doctoriaid nhw'n wag, o'i gymharu â 3% yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Roedd nifer y swyddi gwag i feddygon yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi treblu o 47 ym mis Rhagfyr 2014 i 145 y flwyddyn ganlynol - cyfradd o 11%.

Ym mis Rhagfyr, roedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn chwilio am dri meddyg ymgynghorol mewn triniaethau argyfyngus, tra bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn chwilio am dri o bediatryddion ymgynghorol.