Lluniau Dylan Thomas: Bil o £200,000

  • Cyhoeddwyd
dylan thomas

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £200,000 yn amddiffyn hawliadau am dor hawlfraint ynglŷn â'i defnydd o luniau dadleuol o'r bardd Dylan Thomas.

Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru, mae'r llywodraeth wedi gwario £205,417 rhwng Gorffennaf 2014 a 1 Chwefror eleni yn amddiffyn ceisiadau gan Pablo Star Media Ltd a'r rheolwr-gyfarwyddwr, Haydn Price.

Daeth y ceisiadau yn sgil dau lun o Dylan Thomas a'i wraig Caitlin, oedd yn berchen i Pablo Star Media Ltd, a gafodd eu defnyddio fel rhan o ymgyrch gan y llywodraeth i hybu twristiaeth yng Nghymru.

Defnyddiodd Croeso Cymru y lluniau, a gafodd eu tynnu yn yr 1930au, mewn ymgyrch i nodi can mlynedd ers geni'r bardd. Mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn achosion gan gwmni Pablo Star Media yn Efrog Newydd, Dulyn a'r Iseldiroedd.

Cafodd yr achos yn Nulyn ei daflu allan fis diwethaf, ond dywedodd y cwmni eu bod nhw'n apelio.

'Sgandal'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn amddiffyn yr holl hawliadau yn ein herbyn yn gryf a wnawn ni ddim oedi i hawlio digolledion os yr ydym yn llwyddiannus."

Meddai Haydn Price, o Pablo Star Media: "Mae'n sgandal eu bod nhw'n gwario gymaint o arian a hyn yn amddiffyn hawliad dilys y bydden nhw wedi gallu ei setlo am lawr llai."

"Rydym ni'n hyderus mai ni bia'r hawliau ac mae ymddygiad Llywodraeth Cymru wedi bod yn afresymol."