Mwy o risg o lifogydd na sy'n cael ei ddarogan?
- Cyhoeddwyd

Mae'r risg o lifogydd yng Nghymru yn fwy na'r disgwyl ac mae hynny yn rhoi bywydau ac eiddo pobl mewn perygl, yn ôl arbenigwr byd eang ar afonydd.
Ar raglen Week in Week Out y BBC mae'r Athro Mark Macklin, sy'n bennaeth ymchwil afonydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn rhybuddio bod yna bosibilrwydd nad yw amddiffynfeydd llifogydd yn ddigonol am fod Cyfoeth Naturiol Cymru ddim yn defnyddio'r holl ddata posib i amcangyfrif y risg.
Mae'r Athro Macklin yn arwain tîm o ymchwilwyr sydd wedi darganfod marcwyr daearyddol hanesyddol ar draws Prydain.
Mae'r rhain yn dangos tystiolaeth o lifogydd mwy aml na'r rhai sydd wedi eu mesur gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y 50 mlynedd diwethaf yn afonydd Cymru.
Mae'n credu bod angen defnyddio mwy o ddata hanesyddol i allu amcangyfrif risg a rhybuddio cymunedau o'r posibilrwydd o lifogydd yn y dyfodol.
Mae'n dweud bod angen gweithredu yn gyflym: "Mi fydd angen i ni ail feddwl ac ail fapio'r meysydd sydd mewn perygl o gael eu llifogi ac edrych ar newid y risg o lifogydd.
"Os nad ydyn ni'n gwneud hyn mae bywydau mwy o bobl ac eiddo pobl mewn perygl."
Dyw Cyfoeth Naturiol Cymru ddim yn derbyn bod eu mapiau llifogydd yn amcangyfrif y risg o lifogydd yn rhy isel.
Ond maen nhw'n dweud ei bod yn ymwybodol o waith yr Athro Macklin ac yn ystyried cychwyn astudiaeth beilot i weld os allan nhw ddefnyddio'r data yn ei gwaith.
Week in Week Out, BBC One Wales, nos Lun 29 Chwefror 22.40.