Meddygon: Mwy o swyddi gwag na'r llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y llefydd gwag ar gyfer swyddi meddygon yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi codi dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dyna mae ffigyrau newydd gan adran newyddion y BBC yn awgrymu.
Roedd yna 493 o swyddi gwag ar gyfer doctoriaid mewn ysbytai yng Nghymru ddechrau Rhagfyr, cyfradd o 7.8% - sydd fymryn yn uwch na'r cyfartaledd ar draws Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Ond mae'r ymchwil yn awgrymu bod yna lai o swyddi gwag ar gyfer nyrsys yma o'i gymharu gyda'r gwledydd eraill.
Mae pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru'n trio recriwtio meddygon o dramor tra eu bod nhw i gyd yn bwriadu gwneud hyn ar gyfer nyrsys.
Mae undebau doctoriaid a nyrsys yn gyson wedi rhybuddio bod yna "argyfwng" yn wynebu'r gwasanaeth iechyd o ran recriwtio staff.
Mae'r ffigyrau yn awgrymu bod miloedd o swyddi gwag ar gyfer doctoriaid a nyrsys ar draws Prydain.