Deepcut: Gorchymyn i'r merched i 'gadw eu cegau ar gau'
- Cyhoeddwyd

Cafodd merched ym marics Deepcut eu rhybuddio i "gadw eu cegau ar gau" ar ôl i gorff merch ifanc gael ei ddarganfod yno.
Cafwyd hyd i gorff Cheryl James, 18 oed o Langollen, ym mis Tachwedd 1995 gyda bwled yn ei phen.
Dywedodd Claire Barnett wrth y cwest fod grŵp o ferched wedi cyfarfod i gysuro ei gilydd yn dilyn marwolaeth Preifat James pan ddaeth y Sarjant Andrew Gavaghan i mewn i'r ystafell.
Meddai: "Mi oedd [Sarjant Gavaghan] yn edrych fel bod dim byd wedi digwydd, yn fy marn i. Mi ofynnodd 'Sut mae pawb? Ydy pawb yn iawn?' - o'n i'n meddwl fod hynny'n reit wirion ar y pryd."
Mae'n dweud i'r merched gael eu rhybuddio rhag siarad gyda'r wasg na'r heddlu.
"Mi aethon ni i gyd tu allan ac mi gafon ni wybod yn y bôn: 'Cadwch eich cegau ar gau. Peidiwch a siarad gyda unrhyw un.' Geiriau tebyg i hyn. Doedden ni ddim yn cael gadael y gwersyll a doedd neb yn cael dod mewn."
Sïon o ysbïo
Mae'r llys wedi clywed yn barod bod Sarjant Andrew Gavanghan wedi rhoi gorchymyn i Cheryl James gael rhyw gyda milwr arall y noson cyn iddi farw.
Dywedodd Teresa Sanderson, oedd yn rhannu 'stafell gyda Cheryl James, wrth y cwest fod y merched yn ofnus o Sarjant Gavanghan. Dywedodd hefyd ei fod yn ysbïo ar y merched tra roedden nhw'n gweithio.
Mae Francesca Whitelaw, sy'n cynrychioli Sarjant Gavanghan, yn dweud ei fod wedi dal milwr yn cysgu tra roedd ar ddyletswydd a bod hynny wedi arwain at y sïon amdano yn ysbïo.
Mae'r cwest yn parhau.