Blwyddyn naid: Mam a babi yn dathlu'r un penblwydd

  • Cyhoeddwyd
NevaehFfynhonnell y llun, @AneurinBevanUHB
Disgrifiad o’r llun,
Nevaeh, sydd wedi ei geni yr un diwrnod a'i mam

Mae mam gafodd ei geni ar 29 Chwefror wedi rhoi genedigaeth i fabi ar yr union run diwrnod ar flwyddyn naid.

Cafodd Nichola Davies o Gasnewydd ei geni ar y dyddiad yma yn 1992 ac mi fydd ei merch fach, Nevaeh, yn dathlu ei phenblwydd bob pedair blynedd gyda'i mam.

Roedd Nichola wedi bod yn cael poenau geni ers tri diwrnod. Ond roedd y fydwraig yn yr ysbyty wedi darogan na fyddai ei merch yn cael ei geni tan 29 Chwefror.

Dywedodd Nichola: "Roedd y fydwraig yn dweud o hyd, 'Mi fydd hi yn dod diwrnod dy benblwydd'. Mi oedd hi yn aros tan y diwrnod mawr. Dw i ddim yn siŵr sut dw i'n teimlo - heblaw mod i wedi blino!"

Mae'r fydwraig, Jodie Harper, wedi dweud bod y "babi yn un arbennig" am ei bod hi wedi ei geni ar yr un diwrnod â phenblwydd naid ei mam.

"Chi byth yn gweld hyn yn digwydd," meddai. "Dyma'r un cyntaf i fi ddod ar ei draws."