Stephen Crabb: Angen 'newidiadau sylweddol' i Fesur Cymru
- Published
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud y bydd "newidiadau sylweddol" i fesur drafft Cymru yn dilyn beirniadaeth o'i gynnwys.
Dywedodd Stephen Crabb y bydd oedi cyn ei gyhoeddi gan roi fwy o amser i gyflwyno gwelliannau i'r bil.
Daw'r cyhoeddiad wedi honiadau y byddai'r mesur yn arwain at lai o rym i Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, mae'r newidiadau'n "oedi anochel" oherwydd "llanast y gellid fod wedi'i osgoi".
Dywedodd Mr Crabb y byddai'r rhestr o bwerau sy'n cael eu cadw'n ôl gan San Steffan yn cael ei lleihau, gan hefyd addo ystyried ffyrdd gwell o adlewyrchu Cymru o fewn y system gyfreithiol.
Mae'r tro pedol yn dilyn awgrym gan bwyllgor o Aelodau Seneddol y dylid gohirio'r cynlluniau ac ailfeddwl am y rhestr o bwerau fydd ddim yn cael eu datganoli.
'Newidiadau sylweddol'
"Mae wedi dod yn glir i mi bod angen gwneud newidiadau sylweddol ac arwyddocaol i rai elfennau o'r mesur," meddai Mr Crabb mewn cynhadledd i'r wasg ym Mae Caerdydd.
Dywedodd nad oedd "cynyddu biwrocratiaeth cyfansoddiadol" yn fwriad ganddo.
Ni fydd y mesur terfynol yn cael ei gyhoeddi tan o leiaf fis Mai, sef ail sesiwn y Senedd hon.
Gobaith Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd ei gyflwyno i Aelodau Seneddol erbyn mis Chwefror.
Bwriad y mesur yw rhoi pwerau newydd i Lywodraeth Cymru dros egni, trafnidiaeth ac etholiadau, ond mae'r cynllun i newid y setliad datganoli wedi bod yn faen tramgwydd.
Cyhoeddodd Mr Crabb hefyd y bydd yn sefydlu gweithgor i edrych a oes angen trefniadau cyfreithiol gwahanol ar gyfer deddfwriaeth Gymreig.
'Oedi anochel'
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones:
"Gadewch i ni fod yn glir am hyn, mae hyn yn oedi anochel i ddelio â llanast y gellid fod wedi'i osgoi.
"Mae angen i Lywodraeth y DU ddod i'r arfer â thrin Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru gyda pharch priodol.
"Mae 'na gyfle nawr, os yw'r ewyllys yno, i wneud fyny am y difrod achoswyd gan broses wallus, a chynhyrchu darn gwirioneddol arwyddocaol o ddeddfwriaeth."
Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, wedi croesawu'r cyhoeddiad am y newidiadau, gan ddweud:
"Hwn yw'r penderfyniad cywir gan ei fod yn rhoi cyfle i'r Cynulliad a Llywodraeth y DU gytuno ar setliad cyfansoddiadol parhaol i Gymru.
"Mae'n bwysig yn awr fod y cyfnod hwn yn cael ei ddefnyddio'n adeiladol i ymgysylltu â'r Cynulliad, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i wella'r Bil, er mwyn iddo gael cefnogaeth y Cynulliad nesaf ac er mwyn cael setliad clir ac ymarferol nad yw'n lleihau'r pwerau a ddatganolwyd i'r Cynulliad eisoes."