Senedd yn dathlu pen-blwydd yn 10 oed
- Cyhoeddwyd
Bydd y Senedd yng Nghaerdydd yn dathlu ei pen-blwydd yn 10 oed ddydd Mawrth.
I nodi'r garreg filltir, bydd y penseiri, yr Arglwydd Richard Rogers ac Ivan Harbour, yn cynnal trafodaeth am yr adeilad a'i hanes.
Mae'r safle wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Athenaeum Chicago (2007) a Gwobr Genedlaethol RIBA (2006). Fe wnaeth hefyd gyrraedd rhestr fer Gwobr Stirling RIBA am Adeilad y Flwyddyn (2006).
Mae'r Senedd wedi gweld 46 o Ddeddfau a Mesurau'n cael eu pasio mewn dadleuon yn y Siambr, ble mae'r 60 Aelod Cynulliad yn eistedd.
Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, fod y Senedd wedi sefydlu ei hun "fel rhan ganolog o fywyd cyhoeddus Cymru.
"Mae'n adeilad hollol anhygoel a fy hoff ran i ohono yw'r Oriel Gyhoeddus.
"Yn yr Oriel, fe gewch chi syniad go iawn o'r hyn sy'n digwydd yn y Siambr a'r cyffro sy'n rhan o hynny. Rwy'n cofio siarad â grŵp o blant ysgol oedd yn ymweld â hi, a dywedodd y plant eu bod yn teimlo fel eu bod ar y Battlestar Galactica!"
Tryloywder
Mae dros filiwn o bobl wedi ymweld â'r Senedd ac mae'r staff wedi cynnal bron i 30,000 o deithiau ar gyfer mwy na 200,000 o bobl, yn cynnwys disgyblion o gannoedd o ysgolion ledled Cymru.
"Mae'r penderfyniadau a wneir yma'n effeithio ar fywydau pawb yng Nghymru, felly mae'r egwyddorion o dryloywder a hygyrchedd, sy'n rhan annatod o'r adeilad, o'r pwysigrwydd mwyaf i mi," meddai'r Fonesig Butler.
Mae'r Senedd wedi cynnal digwyddiadau mawr, gan gynnwys dathliadau Camp Lawn tîm rygbi Cymru yn y Chwe Gwlad yn 2012, a'r digwyddiad i groesawu Olympaidd a Pharalympiaid Cymru'n ôl o gemau Llundain yn 2012.
'Symbol o Gymru ledled y byd'
"Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn creu lle i bobl i yng nghanol democratiaeth," meddai'r Arglwydd Rogers.
Bydd yr Arglwydd Rogers ac Ivan Harbour yn sgwrsio â Menna Richards, cyn Reolwr BBC Cymru ac aelod cyfredol o banel Gwobrau Pensaernïaeth Cymru RIBA.
Dywedodd Mr Harbour: "Dymuniad a gobaith Jim Callaghan oedd y byddai'r Senedd yn dod yn symbol o Gymru ledled y byd. 10 mlynedd ar ôl ei chwblhau, fy ngobaith innau yw ei bod wedi gwireddu'r uchelgais hwnnw."
Cyfres o ddigwyddiadau
Mae Adeiladu ar gyfer Democratiaeth yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ar 1 Mawrth, gan gynnwys digwyddiad i ddathlu'r Pedwerydd Cynulliad.
Hefyd bydd David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, yn derbyn y neges Dydd Gŵyl Dewi flynyddol gan ddisgyblion Ysgol Dewi Sant, Tyddewi, am 14.30 yn y Neuadd.
Ar 5-6 Mawrth, bydd y Senedd yn cynnal penwythnos i'r teulu i ddathlu'r deng mlwyddiant, gan gynnwys:
- Perfformiadau gan Sioe Cyw S4C; Côr Ysgol Glanaethwy; Côr City Voices a syrcas No Fit State;
- Gweithdai barddoniaeth gan Lenyddiaeth Cymru ac Anni Llŷn, bardd plant Cymru;
- Gweithgareddau gan gynnwys celf a chrefft, peintio wynebau a chwarae meddal i'r teulu cyfan.