Cwest: Peiriant ar 'lefel anghywir' cyn marwolaeth dyn

  • Cyhoeddwyd
ysbyty glan clwyd

Mae cwest yn Rhuthun wedi clywed fod peiriant a ddefnyddiwyd ar ddyn cyn ei farwolaeth wedi ei osod ar y lefel anghywir gan nyrs.

Bu farw John Rogers, 78 o Ddinbych, ar ward yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ddiwedd Mawrth 2015.

Dywedodd merch y pensiynwr, Melissa Rogers, wrth y gwrandawiad bod ei theulu ar ddeall nad oedd gosodiadau'r diffibriliwr, neu defibrillator, a ddefnyddiwyd ar Mr Rogers yn gywir.

Daeth i'r amlwg hefyd nad oedd nyrs wedi cael hyfforddiant cynnal bywyd yn ddigon diweddar.

Fe arweiniodd hynny at adolygiad achos difrifol gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

'Dinistriol'

Ar ddiwrnod cyntaf y gwrandawiad, dywedodd Ms Rogers ei bod hi a'i mam wedi eu galw mewn i Ysbyty Glan Clwyd wedi'r farwolaeth i gyfarfod ymgynghorydd oedd yn gyfrifol am y galon.

Dywedodd wrth y teulu bod y diffibriliwr a ddefnyddiwyd ar Mr Rogers wedi ei osod i lefel pŵer dau pan ddylai fod ar 150.

Roedd nyrs arall wedi sylweddoli ar y camgymeriad ac wedi ei newid ar ôl i'r ymdrech gyntaf i adfywio Mr Rogers fethu.

Dywedodd Ms Rogers wrth y cwest: "Mae colli dad wedi cael effaith ddinistriol arna i a fy nheulu.

"Roeddwn yn meddwl bod dad mewn dwylo saff. Ond y noson honno fe aeth popeth o'i le."

Fe gadarnhaodd archwiliad post mortem bod Mr Rogers wedi cael trawiad ar y galon, a bod hynny wedi achosi iddo lewygu ar y ward y noson bu farw.

Mae disgwyl i aelodau o'r tîm nyrsio a meddygol roi tystiolaeth yn ddiweddarach, ac mae'r cwest yn parhau.