Cyhoeddi rhybudd am eira, rhew a gwyntoedd cryf i Gymru

  • Cyhoeddwyd
eiraFfynhonnell y llun, Paul Ellis/AFP/Getty

Mae rhybuddion melyn am eira, rhew a gwynt yng Nghymru wedi eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd.

Mae disgwyl i eira a rhew effeithio Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam a Phowys o 00:05 ddydd Mercher.

Gall wyntoedd o hyd at 70 m.y.a. daro Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Sir Benfro o 08:00 ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock/Swyddfa Dywydd

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai amodau gyrru fod yn "anodd" ac fe all effeithio ar draffig yn ystod cyfnod prysuraf y bore.

Mae'r rhagolygon yn awgrymu y gall hyd at 10cm o eira ddisgyn ar dir sydd dros 200m uwchben y môr, ac mae rhew yn debygol ar ffyrdd a phalmentydd sydd hen eu graeanu.

Mae'r rhybudd am eira a rhew mewn grym tan 10:00, a'r rhybudd gwynt yn parhau tan hanner dydd.