Teyrnged i Thomas Lawrence wedi gwrthdrawiad Caerllion

  • Cyhoeddwyd
Thomas Lawrence

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn 21 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yng Nghaerllion ddiwedd Chwefror.

Bu farw Thomas Lawrence wedi'r gwrthdrawiad ar Belmont Hill.

Wrth roi teyrnged, dywedodd ei rieni, Margaret a Geraint Bowen bod gan eu mab "gariad at fyw y tu allan i'r tŷ, yn gweithio'n galed ar y ffermydd ers ei fod yn ifanc".

"Roedd wrth ei fodd yn gweithio gydag anifeiliaid a byw yn ei oferôls a'i welingtons ym mhob tywydd."

Yn dilyn y gwrthdrawiad, cafodd merch 16 oed o Bontypŵl ei chludo i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.