Dyn wedi 'manteisio' a 'cham-drin' myfyrwraig
- Cyhoeddwyd

Mae myfyrwraig wedi disgrifio sut y cafodd hi ei cham-drin yn rhywiol yn ystod wythnos y glas yng Nghaerdydd.
Fe glywodd Llys y Goron Casnewydd bod y ddynes wedi bod yn yfed ac nad oedd hi'n cofio yn glir yr hyn oedd wedi arwain at yr ymosodiad ym mis Medi.
Mewn cyfweliad oedd wedi ei ffilmio gan yr heddlu, fe ddywedodd bod hi'n cofio dod at ei hun a'i bod wedi ei gwasgu yn erbyn coeden ger yr Amgueddfa Genedlaethol yn y brifddinas.
Mae'n dweud bod ei thrywsus wedi ei dynnu i lawr a bod dyn yn pwyso yn ei herbyn ac yn ei chamdrin yn ystod oriau man y bore wedi noson allan.
Clywodd y llys ei bod wedi baglu wrth iddi redeg i ffwrdd gan grafu ei phen-glin a'i chlun.
Mae'r erlyniad yn honni bod Khalid Alahmadi yn ymwybodol bod y ddynes yn fregus, wedi meddwi a'i fod wedi cymryd mantais ohoni.
Wrth gael ei chroes holi, fe ddywedodd y fyfyrwraig wrth y llys nad oedd hi'n cofio darnau o'r noson.
Mae Khalid Alahmadi yn gwadu un cyhuddiad o ymosodiad rhywiol. Mae'r achos yn parhau.