'Dim trafodaethau' rhwng Crabb a Jones ynglŷn â Mesur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud nad ydy o wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Stephen Crabb ers i Ysgrifennydd Cymru gyhoeddi y bydd yna 'newidiadau sylweddol' i Fesur Drafft Cymru.

Dywedodd Mr Crabb ddydd Llun y byddai'r rhestr o bwerau sy'n cael eu cadw'n ôl gan San Steffan yn cael ei lleihau, y bydden nhw yn cael gwared o fiwrocratiaeth ynghylch cyfreithiau newydd ac yn cynrychioli Cymru yn well yn y system gyfreithiol.

Yn ôl Mr Jones, nid oedd wedi cael gwybod mwy am y cynlluniau "na'r hyn sydd wedi ymddangos yn y wasg".

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru na fyddai manylion y cyhoeddiad am y newidiadau fod wedi bod yn syndod i Mr Jones.

'Dim math o gyfathrebu'

Roedd y cynigion cyntaf wedi eu beirniadu am fod yn or-gymhleth.

Fydd Mesur Cymru ddim yn cael ei gyhoeddi nawr tan ar ôl etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth ACau: "Dwi ddim yn gwybod mwy am fwriad Ysgrifennydd Cymru na'r hyn sydd wedi ymddangos yn y wasg.

"Chafodd Llywodraeth Cymru ddim gwybod o flaen llawn am gynnwys cyhoeddiad Ysgrifennydd Cymru a does na ddim math o gyfathrebu wedi bod wedyn ynglŷn â beth allai ddigwydd nesaf.

"Os oes yna newid go iawn i'r mesur, mae'n rhaid iddi fod yn fesur wedi ei chreu gyda Chymru nid ar gyfer Cymru."

Wrth ymateb i sylwadau Carwyn Jones, dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn cael trafodaethau cyson ac eang gyda Phrif Weinidog Cymru ac fe gafodd gyfarfod gydag o'r wythnos ddiwethaf i drafod Mesur Cymru a chyfeiriad y daith honno.

"Ni ddylai fod unrhyw fanylion gafodd eu cyhoeddi ddydd Llun fod wedi bod yn syndod mawr i'r Prif Weinidog ac i Lywodraeth Cymru."