Angen i'r BBC 'wario £30m' ar raglenni yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
bbc

Dylai'r BBC wario £30m yn ychwanegol ar raglenni yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi bod yn ystyried effaith posib trafodaethau ar adnewyddu Siarter Frenhinol y BBC ar Gymru.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad fod gan y BBC safle sy'n unigryw yng Nghymru o ran ei bwysigrwydd, gan fod cynulleidfaoedd Cymru'n defnyddio cyfran fwy o wasanaethau'r BBC na chynulleidfaoedd yng nghenhedloedd a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig.

Mae BBC Cymru'n dweud y byddan nhw'n ystyried argymhellion yr adroddiad.

'Adlewyrchu, cynrychioli, gwasanaethu'

Mae'r Pwyllgor yn credu bod dyletswydd ar y BBC i sicrhau bod ei allbwn yn adlewyrchu amrywiaeth bywyd a diwylliant Cymru, ac fe ddaeth aelodau'r Pwyllgor i'r casgliad bod y BBC wedi "methu cyflawni ei rwymedigaethau".

Mae wedi argymell y dylid cryfhau'r datganiad ynglŷn â dibenion cyhoeddus y BBC i sicrhau bod y gorfforaeth yn "adlewyrchu, yn cynrychioli ac yn gwasanaethu" anghenion y Deyrnas Unedig, ei chenhedloedd, ei rhanbarthau a'i chymunedau.

Mae Aelodau hefyd am weld targedau penodol a mesuradwy ar gyfer portreadu Cymru mewn rhaglenni rhwydwaith.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai'r BBC ddatblygu targedau penodol a mesuradwy ar gyfer portreadu Cymru yn ei raglenni rhwydwaith. Dylai gyflwyno adroddiad yn flynyddol ar y cynnydd yn erbyn y targedau hyn;
  • Mae'r Pwyllgor yn cefnogi'r symudiad tuag at strwythur ffederal ar gyfer y BBC. O dan strwythur o'r fath, dylai mwy o rym a chyfrifoldeb gael eu trosglwyddo i BBC Cymru Wales, gan ei alluogi i gael mwy o reolaeth olygyddol dros waith comisiynu a phenderfynu; a
  • Dylai'r BBC gyflwyno adroddiad ar ei allbynnau a'i weithrediadau sy'n berthnasol i Gymru i'r Cynulliad yn flynyddol, a darparu datganiad archwiliedig o gyfrifon.
Disgrifiad o’r llun,
Christine Chapman A.C.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol:

"Efallai yn fwy nag unrhyw wlad arall yn y DU, mae gan y BBC safle sy'n unigryw yng Nghymru o ran ei bwysigrwydd, o gofio diffyg lluosogrwydd y cyfryngau, a'r graddau y mae cynulleidfaoedd yng Nghymru yn defnyddio cyfran fwy o wasanaethau'r BBC.

"Mae'r dirywiad sylweddol o ran buddsoddiad y BBC mewn rhaglenni Saesneg dros y deng mlynedd diwethaf wedi arwain at lai o oriau o raglenni sy'n benodol am Gymru ac amserlen sydd wedi methu cynnig disgrifiad ac archwiliad digonol o fywydau a phrofiadau cymunedau Cymru, nac o'r newid yn y tirwedd gwleidyddol ar ôl datganoli.

"Mae'r dirywiad hwn mewn buddsoddiadau wedi bod yn fwy difrifol yng Nghymru nag yng nghenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig. Er bod Gweithrediaeth y BBC wedi cydnabod y diffygion hyn yn gyhoeddus ers peth amser, nid yw'n ymddangos ei bod wedi gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â hwy.

"Mae'r Pwyllgor yn dod i'r casgliad, nid yn unig bod ymrwymiad y BBC i'r cenhedloedd i sicrhau "eu bod yn cael eu torri llai nag mewn mannau eraill" yn annerbyniol, ond y dylai £30 miliwn arall gael ei wario ar wasanaethau i Gymru."

Cafodd dyfodol S4C hefyd ei ystyried gan y Pwyllgor, gydag Aelodau'n argymell - fel rhan o adolygiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gylch gorchwyl, llywodraethiant a chyllid S4C - y dylai anghenion ariannu S4C yn y dyfodol gael eu hystyried ar sail eu teilyngdod eu hunain, ar wahân i ddarpariaeth gwasanaethau cyffredinol y BBC ar gyfer Cymru.

Mewn datganiad, dywedodd BBC Cymru: " Mae hwn yn adroddiad cynhwysfawr, sy'n cynnwys nifer o themau a phynciau pwysig yn ymwneud â darlledu yng Nghymru, a byddwn yn edrych yn fanwl ar yr argymhellion dros y misoedd nesaf."