19,000 yn dewis parthau .Cymru a .Wales
- Cyhoeddwyd

Cafodd y parthau newydd .cymru a .wales eu rhyddhau ar 1 Mawrth, 2015
Mae dros 19,000 o bobl wedi dewis parthau .cymru a .wales ar ddiwedd cyfeiriadau eu gwefannau yn y 12 mis ers i'r cynllun gael ei lansio.
Cafodd y cyfeiriadau Cymreig newydd eu cynnig am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi y llynedd gan gwmni Nominet.
Ymysg y rhai sydd wedi dewis y cyfeiriadau newydd y mae Undeb Rygbi Cymru a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Nominet, Russell Haworth: "Mae'n wych i weld fod busnesau, unigolion a mudiadau ar draws Cymru wedi llofnodi i ddefnyddio'r enwau er mwyn dathlu eu hunaniaeth Gymreig."