Trafod cais am orsaf ynni dŵr yng Nghonwy
- Cyhoeddwyd

Bydd cais i adeiladu gorsaf ynni dŵr Rhaeadr Conwy yn cael ei drafod gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Mercher.
Bydd cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio yn penderfynu ar gais cynllunio RWE Innogy UK i adeiladu gorsaf ynni dŵr 5MW i'r de o Fetws y Coed.
Mae nifer o fudiadau cadwriaethol, pysgotwyr a chaiacwyr wedi uno i wrthwynebu'r cynllun oherwydd pryder y byddai'r cynllun yn hagru ardal arbennig o ran ei natur a'i phrydferthwch, sef Ffos Nuddun neu Fairy Glen.
Ond dywedodd Billy Langley, Uwch Beiriannydd Datblygu Ynni Dŵr RWE Innogy UK wrth BBC Cymru Fyw: "Rydym yn falch iawn o'n cynigion.
"Rydym yn cydnabod bod gwahaniaethau barn yn amlwg ynghylch y cynllun arfaethedig, ond byddwn yn annog y pwyllgor i barhau i ganolbwyntio ar y materion cynllunio sy'n gysylltiedig â'r cynigion."
Mae'r cwmni yn dweud y byddai'n hawdd datrys y "materion bychain" sy'n golygu bod argymhelliad i wrthod y cynllun.
Ychwanegodd Mr Langley: "Bydd prosiectau cyfrifol fel Rhaeadr Conwy nid yn unig yn helpu i sicrhau bod ein hamgylchedd a'n hadnoddau naturiol cyfyngedig yn gallu cael eu mwynhau heddiw, ond hefyd gan ein cenedlaethau yn y dyfodol."
Gwrthwynebiad
Mewn cyfweliad gyda BBC Radio Cymru i drafod y cynllun y llynedd, dywedodd John Harold, cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri: "Mae llifeiriant llawn yn dod ag yn mynd yn gyflym iawn ar yr afon yma.
"Ein prif bryderon ydi'r effeithiau ar yr afon ei hun - ar ddau gilometr lle maen nhw'n mynd i dynnu dŵr yr afon - fe fyddai bron i hanner y dŵr yn mynd i gael ei dynnu allan o'r afon, ac fe fyddai effaith ar natur, ar gaiacwyr, pysgotwyr ac yn y blaen.
"Maen nhw'n mynd i adeiladu argae a blastio twnnel trwy gerrig am bron i gilometr, a wedyn palu twll ar gyfer y beipen i lawr am gilometr arall i'r Fairy Glen Hotel, ac fe wnan nhw wneud llanast llwyr."
Ychwanegodd Mr Harold: "Os 'dach chi'n tynnu digon o ddŵr mae'n mynd i gael effaith sylweddol ar fywyd gwyllt ac ar y ffordd 'dan ni'n gallu mwynhau defnyddio'r afon ei hun. 'Dan ni'n son am safle o bwysigrwydd cenedlaethol.
"Prin iawn ydi'r afonydd o safon Afon Conwy fel mae hi yma. 'Dan ni ddim yn credu fod o werth y risg."