Mam 'bron â thagu ar belen o sothach'

  • Cyhoeddwyd
Samantha RoachFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae mam o Gaerdydd wedi sôn am ei sioc ar ôl iddi bron â llyncu pelen oedd yn cynnwys gwallt a phlastig mewn can o Coca-Cola.

Roedd Samantha Roach, 23 oed, wedi yfed tri chwarter y can, oedd wedi ei brynu yn archfarchnad Aldi, pan ddaeth ar draws y belen.

Cafodd y deunydd ei anfon at arbenigwyr safonau masnach i gael eu profi, a dangosodd y canlyniadau fod saith elfen yn y belen:

1. Trychfil caled a blew du

2. Gwlân glas

3. Cerrig gwyn

4. Olion plastig

5. Deunydd synthetig

6. Siafins coed

7. Deunydd cemegol

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Dywedodd Samantha o ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd: "Mae'n warthus, fe allwn i fod wedi tagu arno - ac mae meddwl am gael sothach fel yna yn fy ngheg yn ofnadwy. "

"Pan brynais i e, doedd gen i ddim syniad ei fod yno, ac mae'n rhaid ei fod wedi suddo i'r gwaelod."

"Dim ond ar ôl i fi yfed tri chwarter y ddiod y sylweddolais i fod rhywbeth o'i le."

"O'n i ar y ffôn ar y pryd, ac fe daflais i e i ffwrdd, ac roeddwn i'n cyfogi ac yn meddwl, "Beth yw hwn?"

"O'n i'n meddwl mai gweillion pryfyn oedd e."

Ffoniodd y fam Coca-Cola i gwyno, ac fe ofynnon nhw iddi anfon sampl i'w brofi.

Ond yn lle hynny, anfonodd Samantha'r deunydd at labordy safonau masnach yng Nghaerdydd.

'Sâl am wythnos'

Wedi iddi gael y canlyniadau, galwodd Samantha ar Coca-Cola i weithredu.

Dywedodd iddi fod yn sâl am wythnos, a'i bod wedi ei chael yn anodd gofalu am ei hefeilliaid.

"Mae gen i ferch bum mlwydd oed ac fe allai hi fod wedi cymryd llwnc o'r ddiod."

Cadarnhaodd y labordy yr hyn oedd yn y belen, ond allen nhw ddim a chadarnhau fod y deunydd yn y can pan gafodd ei agor.

Anfonodd y Cyngor yr adroddiad at Samantha ond fyddan nhw ddim yn cymryd camau pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran Coca-Cola: "Os yw'r cwmser yn dymuno dychwelyd y cynnyrch aton ni, fe wnawn ni gynnal ein profion ein hunain."