Gwyntoedd cryfion yn achosi difrod

  • Cyhoeddwyd
Coeden Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,
Coeden wedi cwympo yn Aberystwyth

Fe gafodd nifer o ffyrdd eu cau a chartrefi eu gadael heb drydan wedi i wyntoedd cryfion achosi difrod fore dydd Mercher.

Bu'n rhaid cau ffyrdd yn Aberystwyth wedi i wyntoedd cryfion chwythu teils oddi ar doeon, ac fe syrthiodd coeden fawr yn ardal Waunfawr, Gwynedd.

Disgrifiad o’r llun,
Ffordd wedi'i chau yn Aberystwyth

Yn ardal Radyr yng Nghaerdydd, fe syrthiodd coeden ar gar.

Dywedodd cwmni Western Power Distribution fod tua 600 o dai heb bŵer. Yn eu plith, mae 200 o dai yn Sir Fynwy, 110 yn Sir Benfro, 170 yng Nghaerdydd a 70 yn Rhondda Cynon Taf.

Disgrifiad o’r llun,
Car wedi'i ddifrodi yn Radyr, Caerdydd