Banciau: Cyn-Ysgrifennydd Gwladol yn galw am weithredu
- Cyhoeddwyd

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae bron i 130 o fanciau wedi cau mewn cymunedau ar draws Cymru, yn ôl ffigurau sydd wedi dod i law BBC Cymru.
Mae rhaglen materion cyfoes Manylu ar BBC Radio Cymru wedi darganfod y bydd banc yr HSBC, erbyn diwedd Ebrill, wedi cau bron i 40% o'u canghennau ers dechrau 2011.
Yn ôl yr ystadegau, bydd y banc wedi cael gwared ar 51 allan o 131 o'u canghennau, a'r NatWest wedi colli 52 o ganghennau yn yr un cyfnod.
Mae'r fwyell hefyd wedi disgyn ar 18 o fanciau Barclays a saith cangen Lloyds.
Dros bedair blynedd mae tri banc wedi cau yn Llandysul yng Ngheredigion. Dim ond un banc sydd bellach ar agor yno - Barclays - a hynny am dridiau'r wythnos.
Yn Llandysul mae nifer yn teimlo fod colli'r banciau wedi bod yn ergyd anferth i'r gymuned.
"Mae'n bendant wedi gwneud gwahaniaeth mawr," meddai Bethan Jones, sy'n berchen siop anrhegion 'Ffab' .
"Dyw pobol ddim yn dod i'r pentre' nawr. Roedd rhai pobol yn dod mewn i'r dre' achos eu bod nhw'n gorfod mynd i'r banc, ond does dim rheswm iddyn nhw ddod nawr. Mae e'n lladd y gymuned."
Cynnydd mewn bancio ar-lein
Yn ôl y prif fanciau, gostyngiad yn y defnydd o'u cyfleusterau sy'n gyfrifol am gau'r drysau, ynghyd â'r cynnydd sylweddol yn nifer y cwsmeriaid sy'n bancio ar-lein.
"Mae'r ffordd o fancio wedi newid," meddai Mervyn Owen, Cyfarwyddwr Barclays yn ne Cymru.
"Mae lot o gwsmeriaid yn defnyddio ffyrdd gwahanol o ddefnyddio'r banc. Maen nhw'n gwneud eu bancio ar-lein ac ar y ffôn neu'r ffôn symudol. Felly mae'r defnydd ry'n ni'n ei weld ar y banciau wedi lleihau yn ofnadwy."
Gyda chartre' teuluol yn Llandysul ers dros hanner can mlynedd, mae'r Arglwydd Morris o Aberafan yn poeni'n fawr am effaith cau banciau ar yr ardal.
Tra'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sefydlodd Fwrdd Datblygu Cymru Wledig - i geisio amddiffyn cymunedau cefn gwlad.
Yn sgil cau banciau, mae wedi dweud wrth Manylu ei fod yn teimlo bod angen gwneud rhywbeth pendant i ddiogelu dyfodol economaidd cymunedau gwledig Cymru.
"Dwi ddim yn dweud ddylen ni ailgreu Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, ond mae angen rhyw fath o fwrdd sydd â phwerau cymdeithasol ac ariannol a bod nhw'n gallu cael rhyw fath o gynllun," meddai.
"Y diffyg cynllun rwy'n gofidio amdano fe nawr. Mae eisiau sefydlu rhyw fath o gorff sy'n gallu edrych ar y broblem ac yna dod a chynigion gerbron llywodraeth y dydd, pwy bynnag yw hi."
Bydd rhaglen Manylu yn cael ei darlledu am 12:30 Ddydd Iau 3 Mawrth ar BBC Radio Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2015