Dyddiad gwrandawiad apêl Ched Evans wedi ei gadarnhau

  • Cyhoeddwyd
ChedFfynhonnell y llun, PA

Mi fydd gwrandawiad apêl y cyn bêl-droediwr Ched Evans yn cael ei glywed yn y llys ar Ddydd Mawrth 22 Mawrth.

Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd yn 2012 ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio merch 19 oed mewn gwesty ger y Rhyl.

Cafodd ei ryddhau'r llynedd ar ôl treulio hanner ei ddedfryd dan glo.

Roedd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol wedi ymchwilio am 10 mis ac mi gyfeirion nhw'r achos at y llys apêl wedi i dystiolaeth newydd gael ei gyflwyno.

Doedd y dystiolaeth yma ddim wedi codi yn ystod yr achos gwreiddiol.

Mae Ched Evans, sy'n gyn-chwaraewr gyda Sheffield United, wedi dweud o'r cychwyn ei fod yn ddi-euog.