Helpu ffoaduriaid wedi 'codi calon' gwirfoddolwr
- Published
Mae dyn o Sir Benfro sydd wedi bod yn helpu ffoaduriaid yn Lesbos yn dweud fod y profiad wedi 'ailgynnau' ei gariad tuag at ddynoliaeth.
Fe aeth Steve Wilson a'i ffrind Ian O'Donahue i'r ynys Roegaidd fis diwethaf ar ôl codi arian yn lleol. Ac mae'n dweud bod yr hyn a welodd wedi codi ei galon.
"Es i yno yn disgwyl tristwch parhaus ac anobaith ond mi ddes i nôl gyda'r teimlad mod i yn hapus i fod yn rhan o'r ddynol rhyw eto."
Mynd ar ran y mudiad Hiraeth Hope wnaeth Steve Wilson, sef mudiad gafodd ei sefydlu yn Sir Benfro y llynedd i gefnogi ffoaduriaid yng Nghymru a thramor.
Y bachgen ar y traeth
Mi gafodd ei ysbrydoli i fynd ar ôl gweld y lluniau o Aylan Kurdi, y bachgen bach oedd wedi marw ar draeth wrth i griw o ffoaduriaid geisio croesi i wlad Groeg.
"Fel nifer o bobl mi welon ni'r ddelwedd yna, y ddelwedd o'r bachgen bach. Ac fel nifer o bobl mi ydyn ni wedi rhoi arian i'r cyrff anllywodraethol. Mae 'na deimlad go iawn, jest pryderon bod yr holl arian mae rhywun yn rhoi, falle nad yw'r arian yn mynd i le dyle fe fynd."
Mae'n dweud bod hi'n anodd crynhoi yr hyn a welodd ond bod pobl o bob man o'r byd yno.