Arsenal 1-2 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
bbcFfynhonnell y llun, Reuters

Mae buddugoliaeth yn Arsenal wedi rhoi hwb anferth i obeithion Abertawe o aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor yma.

Fe roddodd Joel Campbell y tîm cartref ar y blaen ar ôl chwarter awr cyn i'r Elyrch unioni'r sgôr drwy gôl Wayne Routledge.

Bu Arsenal yn pwyso yn yr ail hanner gyda Alexis Sanchez ac Oliver Giroud yn taro'r traws.

Ond gyda chwarter awr yn weddill fe sgoriodd Ashley Williams i'r ymwelwyr gan roi tri phwynt allweddol i Abertawe sy'n eu rhoi chwe phwynt o'r tri isaf.