Diffynnydd wedi 'gwrthod awgrymiadau rhywiol' dynes
- Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o ymosodiad rhyw ar fyfyrwraig yng Nghaerdydd wedi honni iddo wrthod awgrymiadau rhywiol gan y ddynes.
Mae Khalid Alahmadi, 23, wedi ei gyhuddo o ymosod ar y ddynes 19 oed mewn parc yng nghanol y ddinas ar 24 Medi 2015.
Dywedodd Mr Alahmadi, sydd hefyd yn fyfyriwr, ei fod wedi ceisio cysuro'r ddynes ar ôl iddi hi ddweud fod ei chariad wedi bod yn anffyddlon.
Mae Mr Alahmadi yn gwadu'r cyhuddiad ac mae'r achos yn parhau yn Llys y Goron Casnewydd.
'Unig'
Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mr Alahmadi ei fod ar ei ffordd adre o glwb nos pan ddaeth y ddynes ato i ofyn am sigarét. Ychwanegodd ei bod hi'n ymddangos yn ofidus.
Siaradodd mewn Arabeg a gyda chymorth cyfieithydd, dywedodd wrth y llys: "Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n unig... Dechreuodd hi siarad am ei chariad a'r modd oedd o wedi bod yn anffyddlon.
"Dechreuodd hi lefain a dywedais wrthi am beidio poeni.
"Gofynnodd hi 'wyt ti'n gweld problem gyda fi?' Atebais i na a dywedodd hi fod ei chariad wedi cael perthynas gyda dynes oedd yn fwy prydferth na hi."
Cusanu 'am eiliad'
Wrth gael ei holi gan Ben Squirrel ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Mr Alahmadi ei fod wedi yfed ond nad oedd yn feddw. Dywedodd nad oedd yn credu fod y ddynes yn feddw chwaith.
Honnodd er iddo ddweud wrth y fyfyrwraig bod ganddo gariad, ei bod hi wedi gwneud nifer o awgrymiadau o natur rywiol, a'i bod hi wedi ei gusanu "am eiliad".
Dywedodd bod y ddynes wedi gofyn i fynd yn ôl i'w dy, ond ei fod o wedi gwrthod.
Yna, dywedodd, dechreuodd y ddau gerdded i gyfeiriad Cathays, gan gysgodi o'r glaw mewn parc o flaen yr amgueddfa.
Yn ôl Mr Alahmadi, yma fe wnaeth y ddynes roi ei law ar ei chorff, ond fe dynnodd ei law yn ôl. Dywedodd wrth y llys ei bod hi wedi ceisio cyffwrdd ei gorff ef hefyd.
Honnodd Mr Alahmadi ei fod wedi dweud wrthi "nad oedd am wneud unrhyw beth", ac yna fe redodd y ddynes i ffwrdd, yn gwisgo siaced y dyn.
Ddydd Mawrth, clywodd y llys bod y ddynes yn cofio deffro yn gorwedd yn erbyn coeden a bod Mr Alamahdi yn gwthio ei gorff yn ei herbyn.
Mae'r achos yn parhau.