Gyrrwr wedi marw ar ôl taro'n erbyn coeden
- Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr wedi marw ar ôl i'w gar daro yn erbyn coeden nos Fercher.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion wedi'r digwyddiad ar y B4317 rhwng Pontyberem a'r Tymbl.
Dywedodd yr heddlu fod fan Citroen gwyn wedi gadael y ffordd ac wedi taro yn erbyn coeden, rhyw bryd rhwng 21.10 a 21.20 nos Fercher. Bu farw'r dyn oedd yn gyrru'r fan.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd yn gyrru yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwnnw i gysylltu â nhw ar 101 gydag unrhyw wybodaeth.