Chris Coleman i ddechrau trafodaethau i ymestyn ei gytundeb

  • Cyhoeddwyd
coleman

Mae Chris Coleman wedi datgelu ei fod yn bwriadu cychwyn trafodaethau i ymestyn ei gytundeb fel rheolwr Cymru yr wythnos nesaf.

Dywedodd Coleman, 45, ei fod yn gobeithio sicrhau cytundeb newydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru cyn Euro 2016.

Meddai: "Wythnos nesa, wnawn ni siarad. Yn ddelfrydol byddwn ni'n gwybod be' 'dyn ni'n gwneud cyn y gystadleuaeth."

Yn y gorffennol, mae Coleman wedi dweud iddo ystyried rhoi gorau i'r swydd wedi i Gymru gael crasfa yn erbyn Serbia 6-1 yn 2012.

Nid oedd yn ddewis poblogaidd gan bawb pan gafodd ei benodi yn dilyn marwolaeth Gary Speed.

Ond ar ôl goroesi dechrau anodd i'w gyfnod wrth y llyw, dechreuodd y canlyniadau wella ac mae nawr wedi cael ei ganmol am arwain Cymru i Ffrainc - y bencampwriaeth fawr gyntaf i Gymru fod ynddi ers 1958.

'Canolbwyntio ar y twrnament'

"Er tegwch i'r Gymdeithas, fe wnaethon nhw ddweud dros y Nadolig y dylsen ni eistedd i lawr felly maen nhw wedi bod yn pro-active," meddai Coleman.

"Ond 'dyn ni wedi cael gymaint yn mynd ymlaen wrth geisio paratoi at y gystadleuaeth, fe ddywedon ni mai mis Mawrth fyddai'r amser gorau.

"Os yw'r trafodaethau'n mynd yn dda ac os yw popeth yn iawn, yna gwych. Ond os ydym ni filltiroedd i ffwrdd ar bethau yna mae'n well canolbwyntio ar y twrnament."

Amau ffitrwydd Bale

Gwnaeth Coleman gyfaddef y gall seren Cymru, Gareth Bale, fethu un os nad y ddwy gêm gyfeillgar sydd gan Gymru fis yma.

Bydd y cochion yn herio Gogledd Iwerddon yng Nghaerdydd ar 24 Mawrth cyn herio Wcrain oddi cartref dridiau'n ddiweddarach.

Dyw Bale heb chwarae i Real Madrid ers chwe wythnos ond dychwelodd i ymarfer gyda'r clwb yr wythnos yma.

"Bydd yn rhaid i ni ddisgwyl wythnos neu ddwy i weld - os nad yw e ar gael, dyw e ddim ar gael," meddai Coleman.