Dyn wedi marw ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd fore ddydd Iau.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ardal Trelái am 11.30 a darganfod dyn wedi'i anafu ar Heol Glyndŵr. Dywedodd yr heddlu ei fod wedi marw o'i anafiadau.
Mae dau ddyn, sy'n 58 a 37 oed, yn y ddalfa wrth i'r heddlu ymchwilio i achos o lofruddiaeth.
Roedd heddlu arfog wedi'u galw i'r digwyddiad.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.