Cyngor Gwynedd yn cytuno ar doriadau o £5m
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi cytuno i doriadau o bron i £5m i'w cyllideb blynyddol.
Mewn cyfarfod o'r cyngor llawn ddydd Iau, dywedodd yr awdurdod fod aelodau wedi cymeradwyo cyllideb ar gyfer 2016/17 i fynd i'r afael â'r "pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r cyngor dros y blynyddoedd nesaf".
Bydd treth y cyngor yn cynyddu 3.97% hefyd, sy'n golygu bod eiddo Band D yn gweld cynnydd yn eu bil treth cyngor o £3.84 y mis neu £46.09 y flwyddyn.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Dyfed Edwards, nad oedd unrhyw ddewis ond "troi at fesurau anodd".
'Wedi gwrando'n ofalus'
Dywedodd yr awdurdod ei fod wedi cymeradwyo strategaeth sy'n anelu at ddarparu dros £14 miliwn o arbedion effeithlonrwydd ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf.
Bydd y bwlch sy'n weddill yn cael ei bontio drwy gyfuniad o gynnydd 3.97% mewn treth cyngor ynghyd a toriadau i wasanaethau o £4.94 miliwn.
Daw'r penderfyniad yn dilyn yr ymgynghoriad Her Gwynedd diweddar, gyda dros 2,700 o unigolion a sefydliadau yn dychwelyd yr holiadur ymgynghori neu fynychu un o 32 o gyfarfodydd lleol.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Dyfed Edwards: "Nid oes yr un ohonom wedi dewis dod yn gynghorwyr er mwyn torri gwasanaethau cyhoeddus neu gynyddu treth y cyngor.
"Fodd bynnag, mae agenda llymder y llywodraeth yn golygu nad oes gan gynghorau lleol fel Gwynedd bellach unrhyw ddewis ond troi at fesurau anodd i gyflawni ein dyletswydd cyfreithiol i osod cyllideb gytbwys.
"Lle nad oes gennym unrhyw ddewis ond ystyried toriadau, rydym wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn mae pobl leol wedi ei ddweud wrthym yn ystod yr ymgynghoriad Her Gwynedd diweddar.
"O ganlyniad, mae'r mwyafrif helaeth o'r toriadau gwasanaeth y bydd yn rhaid i ni weithredu yn cyfateb i'r dewisiadau toriadau a dderbyniodd y lleiaf o gefnogaeth gan bobl leol yn yr ymgynghoriad."
Meddai fod nifer o wasanaethau wedi cael eu tynnu'n ôl o'r rhestr o doriadau oherwydd eu "pwysigrwydd i sector allweddol penodol neu i ardal benodol o'r sir".