Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth dynes yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth ar ôl i ddynes gael ei darganfod yn farw ym Mae Caerdydd.
Cafodd corff y ddynes 65 oed ei ddarganfod mewn fflat yn Century Wharf am tua 14:15 ddydd Mercher, 2 Mawrth.
Mae dyn 66 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae yn y ddalfa.
Mae teulu'r ddynes wedi cael gwybod.
Dywedodd yr heddlu hefyd bod y mater wedi ei gyfeirio'n wirfoddol at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).