Carcharu dyn am roi ceir ar dân yn fwriadol yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Alan Lloyd Paul Evans

Mae dyn wnaeth roi saith o geir ar dân yn fwriadol yng ngogledd Cymru wedi ei garcharu am bedair blynedd a thri mis.

Fe wnaeth Alan Lloyd Paul Evans, 38 o Wrecsam, wadu cynnau'r tanau yn ardal Parc Caia o'r dref ym mis Hydref 2015, ond cafwyd yn euog gan reithgor.

Roedd eisoes wedi cyfaddef rhoi car arall ar dân.

Cafodd pedwar car eu targedu ar 24 Hydref, ond clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod y tanau wedi effeithio ar geir eraill.

Clywodd y rheithgor bod nifer o danau eraill wedi digwydd yn yr ardal, ond dywedodd y barnwr nad Evans oedd yn gyfrifol am rheiny gan ei fod yn y ddalfa ar y pryd.

Wedi'r gwrandawiad, dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Neil Harrison bod y ddedfryd i Evans yn "rybudd i eraill bod cynnau tanau bwriadol yn drosedd ddifrifol".

Roedd Evans wedi cael dedfryd o 12 wythnos o garchar wedi ei ohirio am gyfaddef cynnau tân arall. Bydd y ddedfryd honno yn rhedeg yr un pryd.