Cwest: Gofal 'amhriodol' wedi atal ymgais i achub bywyd

  • Cyhoeddwyd
ysbyty glan clwyd

Mae crwner wedi dweud bod "defnydd amhriodol o ddiffibriliwr" wedi golygu bod ymgais i achub bywyd dyn 78 oed wedi methu.

Bu farw John Rogers, 78 o Ddinbych, yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ym mis Mawrth 2015.

Clywodd y cwest yn Rhuthun bod diffibriliwr gafodd ei ddefnyddio ar gorff Mr Rogers wedi ei osod yn anghywir.

Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth o achosion naturiol, dywedodd y crwner, John Gittins, y byddai'n ysgrifennu at y bwrdd iechyd i sicrhau bod gwelliannau yn cael eu gwneud.

Trawiad ar y galon

Fe wnaeth Mr Rogers lewygu yn yr ysbyty ar ôl dioddef trawiad ar ei galon.

Clywodd y cwest bod diffibriliwr gafodd ei ddefnyddio wrth geisio adfywio Mr Rogers wedi ei osod i lefel pŵer dau pan ddylai fod ar 150.

Roedd nyrs arall wedi sylwi ar y camgymeriad ac wedi ei newid ar ôl i'r ymdrech gyntaf i adfywio Mr Rogers fethu.

Daeth i'r amlwg hefyd nad oedd y nyrs oedd yn gyfrifol am ddefnyddio'r peiriant wedi cael hyfforddiant yn ddigon diweddar.

Wrth gofnodi'r rheithfarn, dywedodd y crwner y byddai'n ysgrifennu at y bwrdd iechyd i sicrhau eu bod yn delio gyda'r mater o'r nyrs yn defnyddio'r diffibriliwr heb yr hyfforddiant cywir.

Dywedodd bod angen i staff meddygol "fod a'r cymwyseddau mwyaf addas a sy'n bosib".

"Mae'n benderfyniad anodd ond yn un dwi'n teimlo bod y cyhoedd yn mynnu y maen nhw'n ei ystyried," meddai.

'Angen newidiadau'

Wedi'r cwest, dywedodd teulu Mr Rogers: "Rydyn ni'n gobeithio bod newidiadau yn cael eu gwneud. Maen rhaid iddyn nhw gael eu gwneud.

"Ni ddylai unrhyw un arall orfod dioddef fel hyn."

Fe wnaeth Alison Griffiths, Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio yn Ysbyty Glan Clwyd, ymddiheuro i'r teulu a dweud bod ymchwiliad mewnol yn parhau i ddarganfod "pa wersi eraill allwn ni eu dysgu a pha gamau allwn ni eu cymryd i atal digwyddiad tebyg rhag digwydd yn y dyfodol".