E-sigarennau: Gwaharddiad yn debygol o gael cefnogaeth
- Cyhoeddwyd

Mae gwaharddiad ar e-sigarennau mewn rhai mannau cyhoeddus yn debyg o gael ei gefnogi yn y Cynulliad.
Pryder Llywodraeth Cymru yw bod defnydd o e-sigarennau yn normaleiddio ysmygu.
Mae ymgais gan y Democratiaid Rhyddfrydol i atal y gwaharddiad, sy'n rhan o'r Mesur Iechyd Cyhoeddus, yn debygol o fethu, gan fod rhai o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn cefnogi'r gwaharddiad.
Bydd ACau yn trafod y gwaharddiad, sydd wedi ei wanhau yn dilyn gwrthwynebiad gan y gwrthbleidiau, yr wythnos nesaf.
Hollti barn
Yn wreiddiol roedd Llywodraeth Cymru am atal defnydd e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus caeedig a lleoliadau gwaith.
Ond daeth adroddiad gan bwyllgor i'r canlyniad bod y cynllun yn hollti barn ACau, gydag AC Plaid Cymru, Elin Jones, yn awgrymu gwaharddiad llai caeth na sydd a'r dybaco.
Mae ACau wedi cefnogi newidiadau sy'n golygu y byddai e-sigarennau wedi eu gwahardd mewn ysgolion, ysbytai, gorsafoedd trenau a bysiau ac mewn llefydd sy'n gwerthu bwyd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ehangu'r rhestr yma i gynnwys lleoliadau fel sinemâu, siopau ac ardaloedd chwarae.
Effaith ar iechyd
Er bod rhai aelodau o Blaid Cymru yn cefnogi'r cynllun, mae'r arweinydd Leanne Wood wedi dweud y bydd hi'n ystyried y dystiolaeth cyn pleidleisio.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio atal y cynllun, ac mae'r Ceidwadwyr wedi dweud eu bod yn cefnogi'r safbwynt yna.
Mae rhai elusennau wedi dweud bod e-sigarennau yn helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw effaith e-sigarennau ar iechyd yn glir eto, ond nad yw'r cynllun yn atal pobl rhag eu defnyddio i roi'r gorau i ysmygu.