Enillwyr yr Urdd yn Disneyland
- Cyhoeddwyd

Bydd pum o enillwyr Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015 yn teithio i Disneyland Paris i berfformio ar lwyfan yn y parc yn ystod y penwythnos hwn, ar gyfer penwythnos Gŵyl Ddewi flynyddol yr atyniad.
Y pump enillydd a'u teuluoedd sydd wedi teithio i Baris eleni yw Marged Jones o Ysgol Gynradd Y Dderwen, enillydd unawd Bl2 ac iau; Siwan Jones o Ysgol Gynradd Y Dderwen, enillydd unawd Bl 3 - 4; Lowri Davies o Ysgol Gynradd Talgarreg, enillydd unawd Bl 5 a 6; Daniel Calan Jones, Ysgol Gyfun Plasmawr, enillydd dawns unigol i fechgyn Bl9 ac iau; a Caitlin Drake, Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd, enillydd unawd sioe gerdd Bl 10 - o dan 19 oed.