Jeremy Corbyn yn gorymdeithio yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
corbyn

Mae arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi ymuno â gorymdaith yng Nghaerdydd i wrthwynebu cynlluniau i gyfyngu ar streiciau yn y sector cyhoeddus.

Mae Mr Corbyn wedi canmol ymdrechion gweinidogion Llafur Llywodraeth Cymru i geisio atal Mesur Undebau Llafur llywodraeth San Steffan sydd yn effeithio ar wasanaethau sydd wedi eu datganoli yng Nghymru, fel y gwasanaeth iechyd.

Ym mis Chwefror, roedd llythyr yn awgrymu bod gweinidogion yn Llundain yn cydnabod bod yr achos dros weithredu'r rheolau yng Nghymru yn "wan iawn".

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Mr Corbyn fod gwasanaethau cyhoeddus cryf yn dibynnu ar "weithlu oedd wedi eu hyfforddi a'u cyflogi'n dda, ac yn ddiogel."

Rheolau newydd

O dan y mesur, sy'n cael ei ystyried yn Nhŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd, byddai rheolau newydd am weithredu diwydianol yn cael eu cyflwyno, fyddai'n golygu y byddai unrhyw streic oedd yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol yn cael eu derbyn petai 40% o'r rhai oedd yn cael pleidleisio yn cefnogi'r gweithredu.

Ar hyn o bryd, fe gaiff streicio ei ganiatau os yw mwyafrif y rhai sydd wedi pleidleisio yn dewis gweithredu diwydiannol.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi bygwth mynd yn groes i San Steffan gan ddeddfu ar streicio yng Nghymru, hyd yn oed os yw'n golygu mai'r Goruchaf Lys fydd yn penderfynu pa lywodraeth sydd gyda'r gair olaf am y penderfyniad.

Dywed llywodraeth y DU ei fod am sicrhau nad yw streiciau, sy'n cael gefnogaeth nifer fechan o aelodau undeb, yn effeithio ar wasanaethau hanfodol ar fyr rybudd.