Gwrthdrawiad difrifol ger Dolgellau
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A494 ger Dolgellau brynhawn dydd Gwener.
Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad am 13:13 yn dilyn adroddiadau bod car wedi bod mewn gwrthdrawiad a lori fechan tua phedair milltir o'r dref.
Mae'r ffordd rhwng Bontnewydd ar ochr y Bala, a Ffordd Bala wedi ei chau ar hyn o bryd ac mae disgwyl y bydd ar gau am gryn amser.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod U031523.