Darganfod corff wedi 14 mlynedd
- Published
image copyrightHeddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi bod gweddillion dynol gafodd eu darganfod mewn chwarel yn Sir Fynwy yn berchen i ddynes oedd wedi bod ar goll ers 14 o flynyddoedd.
Cafodd Margaret Ann Llewelyn, oedd yn 53 oed, ei gweld am y tro diwethaf yn ei chartref yng Nghas-gwent yn 2002.
Yn dilyn ei diflaniad cafwyd sawl apêl am wybodaeth gan aelodau o'i theulu.
Cafodd swyddogion o Heddlu Gwent eu galw i Chwarel Beaufort ar 24 Chwefror, ac mae swyddogion wedi cadarnhau ddydd Gwener mai corff Mrs Llewelyn oed yr un gafodd ei ddarganfod yno.