Plaid Cymru i apelio y tu hwnt i'w chadarnleoedd
- Cyhoeddwyd
Gall neges etholiadol Plaid Cymru apelio y tu hwnt i'w chadarnleoedd dros Gymru gyfan, yn ôl llefarydd economi'r blaid, Rhun ap Iorwerth.
Fe ddywedodd wrth gynhadledd wanwyn y blaid yn Llanelli ddydd Sadwrn, bod Plaid Cymru bellach yn apelio at bobl o bob "cefndir, amgylchiadau neu deyrngarwch blaenorol".
Mae Plaid Cymru wedi addo i uwchraddio cysylltiadau trafnidiaeth a band eang ledled Cymru.
Ond maent yn addo diystyru traffordd newydd o amgylch Casnewydd, pe byddai hynny'n defnyddio'r holl arian y gall Llywodraeth Cymru ei fenthyca.
"Gall ein huchelgais ar gyfer Cymru apelio at bawb", meddai Mr ap Iorwerth.
"Waeth cefndir pobl, amgylchiadau, neu deyrngarwch blaenorol, gall y genedl gyfan uno y tu ôl i'n rhaglen addysg dda a Chymru gyfoethocach.
"Newid go iawn ar y papur pleidleisio yn yr etholiad hwn. Nawr yw'r amser i benderfynu."
Ar hyn o bryd, y Blaid yw'r drydedd blaid fwyaf yn y Cynulliad gyda 11 o'r 60 o seddi, ond dydyn nhw ddim yn dal unrhyw seddi etholaethol y tu allan i'r canolbath, y gorllewin a'r gogledd-orllewin ar hyn o bryd.