Prosiect arloesol yn 'chwalu rhwystrau ym maes diwylliant'

  • Cyhoeddwyd
ken skates
Disgrifiad o’r llun,
Mae disgwyl i Ken Skates gyhoeddi fod swm ychwanegol o £165,000 ar gael i ehangu'r rhaglen

Mae rhaglen newydd arloesol sy'n defnyddio'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i gefnogi rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru wedi llwyddo i ddenu dros 1,500 o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod ei blwyddyn beilot.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r cynllun wedi rhoi help i bobl feithrin sgiliau er mwyn gwella cyrhaeddiad, a dod o hyd i swyddi.

Drwy gyfrwng gweithgareddau sy'n amrywio o blant yn cymryd yr awenau mewn amgueddfeydd i ddynion di-waith yn datblygu sgiliau drwy archaeoleg, mae menter Trechu Tlodi drwy Ddiwylliant yn helpu awdurdodau lleol ac ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a chyffrous i annog pobl na fyddent yn ymhel â diwylliant a threftadaeth fel arfer i roi cynnig arni.

Cyllid ychwanegol

Mewn digwyddiad fydd yn cael ei gynnal yn Wrecsam i ddathlu llwyddiant y flwyddyn gyntaf, bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, yn croesawu adroddiad gwerthuso'r rhaglen hyd yma ac yn cyhoeddi y bydd swm ychwanegol o £165,000 ar gael i ehangu'r rhaglen.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Dw i'n ymfalchïo yn y ffaith mai Cymru sy'n arwain y ffordd yn y DU o ran chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol. Mae angen i bawb gael mwynhau'r manteision sy'n gysylltiedig â gweithgareddau o'r fath. Mae hyn wedi bod yn un o fy mlaenoriaethau fel Dirprwy Weinidog, ac mae'n rhywbeth dw i'n teimlo'n gryf iawn yn ei gylch.

"Mae'r rhaglen yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i bobl ddatblygu sgiliau newydd ac i feithrin hyder drwy wneud pethau fel helpu i redeg amgueddfa, cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a cherddorol, neu wirfoddoli. Mae wedi galluogi dros 500 o bobl i gymryd rhan mewn cyrsiau a chynlluniau strwythuredig ‒ llawer ohonyn nhw'n arwain at achrediadau a chymwysterau."

Ardal arloesi

Mae Wrecsam yn un o'r Ardaloedd Arloesi ar gyfer y rhaglen, ac mae dros 30 o bartneriaid, gan gynnwys Oriel Wrecsam a Llenyddiaeth Cymru, yn cymryd rhan ynddi. Mae wedi bod yn gweithio gydag oedolion economaidd a chymdeithasol anweithgar mewn dau Glwstwr Cymunedau yn Gyntaf yn y fwrdeistref, a hynny gyda'r nod o'u hannog i anelu'n uwch, i greu fwy o gyfleoedd ar eu cyfer, a'u helpu i symud ymlaen at hyfforddiant neu swyddi posibl.

Cafodd llyfrgell dros dro yn stad Parc Caia ei dreialu, lle'r oedd pobl yn gallu manteisio ar wasanaethau e-lyfrgell er mwyn gwella llythrennedd a chynhwysiant digidol. Trefnwyd cyrsiau celfyddydol hefyd, lle'r oedd cyrff diwylliannol yn cynnig teithiau a gweithgareddau i ysbrydoli'r grŵp. Nid oedd llawer o aelodau'r grŵp hwnnw wedi ymweld â'r safleoedd hynny erioed o'r blaen.