Bristol City 0-2 Caerdydd

caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency

Fe lwyddodd goliau gan Lex Immers a Stuart O'Keefe i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Bristol City ddydd Sadwrn.

Fe lwyddodd ergyd agos gan Immers, yn dilyn croesiad isel gan Joe Ralls i roi'r ymwelwyr ar y blaen ar yr egwyl.

Cynyddu ddaru'r pwysau gan yr Adar Gleision ar ôl yn yr ail hanner, ac fe fethodd y Robyns a dod o hyd i'r targed er sawl ymgais.

Fe ddaeth ail gôl Caerdydd wedi peniad gan O'Keefe, gan ddyblu mantais yr ymwelwyr.

Dyma fuddugoliaethau cefn-wrth-gefn gyntaf Caerdydd ers yr haf, sy'n rhoi hwb i obeithion y rheolwr, Russell Slade, o sicrhau lle'r Adar Gleision yn y chwech uchaf cyn diwedd y tymor.